Canolfannau cymunedol – ‘newid mawr o oruchwyliaeth mewn swyddfa’
 

Mae ymchwil annibynnol wedi taflu goleuni ar y defnydd a wneir o ganolfannau cymunedol yn y sector prawf.
 
Cynhaliodd y Ganolfan dros Faterion Cymunedol, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol yn y Sefydliad Troseddeg ym Mhrifysgol Caergrawnt astudiaeth chwe mis o’r gweithgarwch sy’n cael ei gyflawni gan Working Links mewn canolfannau cymunedol ledled Cymru a de-orllewin Lloegr.
 
Lleoliadau amlasiantaethol yw canolfannau cymunedol, lle mae ystod o sefydliadau a mudiadau’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig dan yr un to. Yng Nghymru ar hyn o bryd, rydym yn gweithio o 19 o ganolfannau cymunedol – sy’n cynnwys canolfannau i fenywod yn unig – ac yn helpu i ddarparu gwasanaethau cynhwysfawr i unigolion.
 
Nod pob canolfan gymunedol yw cynnig mynediad i ystod o wasanaethau sy’n cynnwys cymorth o ran tai a dyledion, gwasanaethau’n ymwneud ag ymddygiad caethiwus, gwasanaethau cyflogaeth, a chyfleoedd i wirfoddoli a chael hyfforddiant. Yn ogystal, mae llawer o’r canolfannau’n darparu gwasanaethau a chyfleusterau ychwanegol sy’n cynnwys gwasanaeth mentora, gwasanaethau iechyd a lles, diodydd a lluniaeth, gwasanaethau iechyd meddwl, cyfleusterau undeb credyd a darpariaeth ymarferol arall. Yn aml, mae cymorth o’r fath yn helpu i leihau aildroseddu.

Dyma ganfyddiadau’r ymchwil:
 
  • Mae canolfannau cymunedol yn fwy na chanolfannau ymbresenoli i ddefnyddwyr gwasanaeth yn eu cymdogaeth. Mae eu lleoliad yn bwysig o safbwynt ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion. Mae defnyddwyr gwasanaeth yn hoffi cael gwasanaethau’n agos i’w cartref.
  • Mae canolfannau cymunedol yn cynrychioli newid mawr o oruchwyliaeth mewn swyddfa.
  • Gall goruchwyliaeth mewn canolfannau cymunedol gynnig cymorth wedi’i deilwra er mwyn helpu defnyddwyr gwasanaeth i newid a’u galluogi i greu cysylltiadau cymunedol a fydd yn para y tu hwnt i’w cyswllt â’r Cwmni Adsefydlu Cymunedol.
  • Nid oes yn rhaid i bob canolfan gymunedol fod yr un fath. Nid yw’n bosibl i un math o ganolfan gymunedol fod yn addas i bawb.
  • Mae nodweddion a sgiliau’r sawl sy’n gweithio mewn canolfannau cymunedol yn hollbwysig. Soniodd y defnyddwyr gwasanaeth am bwysigrwydd perthnasoedd proffesiynol, ac roedd yn amlwg eu bod yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd y maent yn eu cael i ryngweithio â gweithwyr Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol yn y canolfannau.
  • Roedd y defnyddwyr gwasanaeth yn ymateb yn gadarnhaol i weithwyr a oedd yn groesawgar, yn dwymgalon ac yn ddibynadwy. Roeddent yn gwerthfawrogi cysondeb o ran staffio a’r ffaith nad oedd yn rhaid iddynt ailadrodd eu hanes o hyd.
  • Mae’r model canolfannau cymunedol yn cynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr gwasanaeth o’r gwaith y mae asiantaethau eraill yn ei wneud. Mae hefyd yn hwyluso’r broses o gyfeirio pobl at y gwasanaethau hynny, yn cyflymu’r broses ac weithiau’n cael gwared â hi’n gyfan gwbl.
  • Mae canolfannau ‘cynllun agored’ yn golygu ei bod yn arbennig o hawdd i unigolion ryngweithio ag ystod o wasanaethau.
  • Yr agweddau allweddol ar gymorth yw’r agweddau sy’n mynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig ag ymddygiad troseddol, er enghraifft tai a digartrefedd, cyffuriau, alcohol, trais domestig, cyflogaeth a hyfforddiant.
  • Mae canolfannau cymunedol yn atgyfnerthu perthnasoedd rhyngbroffesiynol. Yn ôl y sawl sy’n gweithio yn y canolfannau cymunedol, maent yn gwybod mwy am y gwaith y mae asiantaethau eraill yn ei wneud ac maent yn elwa o gyfleoedd i drafod yn anffurfiol. 

Meddai un defnyddiwr gwasanaeth wrth sôn am yr asiantaethau partner sy’n ymwneud â chanolfannau cymunedol: “Maen nhw i gyd yno, mae’r cyfan mewn un ystafell a gallwch fynd o’r naill ddesg i’r llall. A phan fydda’ i’n gadael, rwy’n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth.”

Meddai un arall: “Mae’r mynediad i wasanaethau’n grêt. Mae’r staff rydw i wedi bod yn ymwneud â nhw’n grêt. Ac, fel wedes i, mae’n wych cael y gwasanaethau i gyd dan yr un to.”
 
Meddai Trevor Gardner, sy’n Rheolwr Integreiddio Cymunedol gyda Working Links: “Mae canolfannau cymunedol yn helpu i gael gwared â’r label ‘troseddwr’, ac maent yn helpu’r defnyddwyr gwasanaeth i fanteisio ar ystod o wasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd mewn lleoliad cymunedol, ac yn sicrhau bod modd ymateb mewn un man i’r problemau y mae pobl yn eu hwynebu’n aml. Mae hynny’n galluogi pobl i gael mynediad i wasanaethau’n agos i’w cartref, ac rydym yn gwybod bod hynny’n rhan bwysig o adsefydlu ac o atal rhagor o ymddygiad troseddol.
 
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ein model canolfannau cymunedol gyda’n hasiantaethau partner er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gennym yn lleihau aildroseddu mewn modd mor effeithiol ag sy’n bosibl.”  
 
I weld yr adroddiad llawn, dilynwch y ddolen gyswllt isod:

Lawrlwytho’r adroddiad llawn