Rhaglenni wedi’u hachredu
Yn rhan o ddedfryd mae’n bosibl y bydd rhywun yn cael gorchymyn i fynychu rhaglen i grŵp neu i unigolyn, a all helpu i newid ei ymddygiad er gwell.
Nod ein rhaglenni yw helpu i:
- wella sgiliau meddwl pobl
- annog pobl i gyd-dynnu’n well ag eraill
- lleihau agweddau gwrthgymdeithasol
- lleihau’r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn aildroseddu
- cadw pobl eraill yn ddiogel.
Ar hyn o bryd rydym yn darparu dwy raglen wahanol – Creu Gwell Perthnasoedd a’r Rhaglen Sgiliau Meddwl.
Mae ein rhaglen Creu Gwell Perthnasoedd yn helpu i leihau’r risg o aildroseddu ac yn hybu diogelwch partneriaid a phlant yr unigolyn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae’n galluogi pobl i ddeall pam y maent wedi ymddwyn yn ymosodol yn eu perthnasoedd personol, a deall yr agweddau a’r credoau a oedd yn sail i’r ymddygiad hwnnw.
Mae hefyd yn helpu pobl i:
- ddysgu mwy am y gwahanol fathau o ymddygiad sy’n niweidio perthnasoedd
- dod i’w deall eu hunain yn well
- gweld sut y mae problemau personol yn chwarae rhan yn y modd y maent wedi ymddwyn yn ymosodol tuag at eu partner
- darganfod eu cryfderau ac adeiladu arnynt a’u defnyddio i wella perthnasoedd
- datblygu’r sgiliau sydd ganddynt a dysgu rhai newydd er mwyn goresgyn unrhyw anawsterau y maent yn eu hwynebu.
Mae ein Rhaglen Sgiliau Meddwl yn helpu pobl i beidio ag aildroseddu ac yn lleihau’r risg o niwed sy’n gysylltiedig â throseddwyr. Mae’n helpu i hybu newid er gwell o ran ymddygiad, megis sgiliau datrys problemau, ac mae’n galluogi unigolion i gymryd camau cadarnhaol i roi’r gorau i aildroseddu. Mae modd gwella sgiliau rhyngweithio cymdeithasol pobl a’u gallu i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol.
Mae hefyd yn helpu pobl i:
- ddeall y rhesymau dros eu hymddygiad
- adnabod a rheoli eu hemosiynau a sicrhau eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau a reolir yn well
- datblygu sgiliau newydd
- gosod a chyflawni nodau er mwyn cadw allan o drwbwl.