Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu
Ymyriad yw Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu, y bwriedir iddo fynd i’r afael ag ystod o wahanol fathau o ymddygiad ac ystod o wahanol lefelau o risg sy’n gysylltiedig â throseddwyr. Nid yw rhaglen wedi’i hachredu neu ymyriad tebyg yn ymdrin â’r mathau hyn o ymddygiad troseddol.
Mae ein Gofynion Gweithgarwch Adsefydlu yn helpu i:
- ddiogelu’r cyhoedd a lleihau aildroseddu
- galluogi unigolion i feithrin sgiliau a rhinweddau newydd
- ei gwneud yn bosibl i ymyriadau gael eu cyflwyno mewn modd cydlynol, gan wella’r tebygolrwydd y byddant yn llwyddo
- darparu dull gweithredu mwy hyblyg sydd wedi’i deilwra’n well, sy’n ystyried anghenion amrywiol pob unigolyn.
Mae Gofynion Gweithgarwch Adsefydlu yn helpu unigolion i:
- ddatblygu sgiliau cyfathrebu a sgiliau datrys problemau mewn perthnasoedd
- deall y modd y gall camddefnyddio sylweddau ac alcohol effeithio ar eu bywyd
- deall ffyrdd o wella eu sgiliau magu plant
- cynnal eu cydnerthedd emosiynol ac ymdrin ag anawsterau emosiynol sy’n dylanwadu ar eu hymddygiad troseddol.
Mae’r Gofynion Gweithgarwch Adsefydlu hefyd yn cynorthwyo menywod sy’n troseddu, drwy eu helpu i ddeall sut y gallai eu profiadau personol fod wedi effeithio ar eu hymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallant ddatblygu sgiliau newydd megis sgiliau datrys problemau, a dysgu sut i sicrhau newid er gwell yn eu bywydau.